Rhodri Morgan | |
---|---|
Ganwyd | 29 Medi 1939 Caerdydd |
Bu farw | 17 Mai 2017 Gwenfô |
Man preswyl | Llanfihangel-y-pwll |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Prif Weinidog Cymru, Arweinydd y Blaid Lafur, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Yr Ysgrifennydd dros Ddatblygiad Economaidd a Materion Ewropeaidd, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1af, Aelod o Ail Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Aelod o 3ydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Tad | T. J. Morgan |
Priod | Julie Morgan |
Rhodri Morgan | |
Cyfnod yn y swydd 16 Hydref 2000 (Prif Ysgrifennydd ers 9 Chwefror 2000) – 10 Rhagfyr 2009 | |
Dirprwy | Mike German (2000-2001) Jenny Randerson (2001-2002) Mike German (2002-2003) Ieuan Wyn Jones (2007-2009) |
---|---|
Rhagflaenydd | Alun Michael (Prif Ysgrifennydd) |
Olynydd | Carwyn Jones |
Geni |
Gwleidydd o Gymru a Phrif Weinidog y Cynulliad Cenedlaethol o 2000 i 2009 oedd Hywel Rhodri Morgan (29 Medi 1939 – 17 Mai 2017). Daeth i swydd y Prif Weinidog ar ôl ymddiswyddiad Alun Michael, ac felly ef oedd yr ail berson i arwain Cynulliad Cenedlaethol Cymru ond y cyntaf i ddefnyddio'r teitl Prif Weinidog. Fe'i etholwyd yn swyddogol yn Brif Weinidog ar 16 Chwefror 2000. Cyhoeddodd yn Chwefror 2008 y byddai'n ymddeol yn 2009 pan fyddai'n 70 mlwydd oed.[1] Ar 1 Hydref 2009 cadarnhaodd ei fwriad i sefyll lawr, ac ymddiswyddodd yn swyddogol ar 8 Rhagfyr 2009.[2] Y diwrnod canlynol ar 9 Rhagfyr 2009 enwebwyd Carwyn Jones, ei olynydd fel arweinydd Llafur Cymru, yn Brif Weinidog.[3]